Description: OPCfW%20Logo

 

Ymateb gan                                            Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

i

Ymchwiliad                                                   Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                i Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yng Nghymru

 

Mehefin 2014

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymateb hwn, cysylltwch â:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru,

Adeiladau Cambrian,

Sgwâr Mount Stuart,

Caerdydd, CF10 5FL

08442 640670

 

 

 

Am y Comisiynydd

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais ac yn hyrwyddwr annibynnol ar ran pobl hŷn ledled Cymru, gan sefyll a siarad drostynt ac ar eu rhan. Mae’n gweithio i sicrhau bod pawb sy’n agored i niwed ac yn wynebu risg yn cael eu cadw’n ddiogel, ac yn sicrhau bod llais pob person hŷn yn cael ei glywed. Mae hefyd yn sicrhau eu bod yn cael ymarfer dewis a rheolaeth, heb deimlo’n ynysig na theimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn, a’u bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen. Sbardunir gwaith y Comisiynydd gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sydd bwysicaf iddynt hwy ac mae eu llais wrth galon popeth mae’n ei wneud. Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru’n lle da i bobl dyfu’n hŷn ynddo - nid dim ond i rai, ond i bawb.       

 

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyflawni’r canlynol:

·        Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Annog arferion gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru.

·        Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymchwiliad i Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yng Nghymru

1.   Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwyf yn croesawu’r cyfle i ymateb i Ymchwiliad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yng Nghymru [1].

 

2.   Cyflwynaf rai sylwadau ar y materion allweddol, fel yr amlinellir yn y Cylch Gorchwyl.           

Cynnydd tuag at gyrraedd targedau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018

3.   Ni ddylai pobl hŷn gael eu heffeithio’n annheg gan dlodi tanwydd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tlodi tanwydd wedi cynyddu ledled y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf[2], ac mae’n broblem fawr sy’n wynebu llawer o bobl hŷn yng Nghymru. Mae’r gaeafau hynod oer yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud pethau’n waeth, a hefyd y cynnydd cyson mewn prisiau ynni a chymhlethdod newid cyflenwyr ynni er mwyn arbed arian. Yn gyffredinol, mae oddeutu 386,000 o deuluoedd yng Nghymru (30%) yn profi tlodi tanwydd[3]. Mae amcangyfrif o 140,000 o deuluoedd o bobl hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd, gan effeithio ar ryw 360,000 o bobl hŷn[4].

 

4.   Mae ffigurau tlodi tanwydd Cymru a’r DU yn achos pryder gwirioneddol. Ledled y gweinyddiaethau datganoledig, mae tlodi tanwydd wedi cynyddu 43% ers 2011 ac, ar ôl Gogledd Iwerddon, yng Nghymru mae’r gyfran fwyaf o deuluoedd sy’n wynebu tlodi tanwydd[5]. Yng Nghymru hefyd y mae’r ganran uchaf o gartrefi sydd â waliau solet o gymharu â Lloegr a’r Alban (mae waliau solet yn gadael dwywaith cymaint o wres drwodd â waliau ceudod)[6], ac mae gan Gymru nifer is o deuluoedd sy’n cael nwy o’r prif gyflenwad o gymharu â Lloegr (mae ffurfiau eraill o danwydd yn ddrytach)[7]. Hefyd, mae’r DU yn un o’r Aelod-wladwriaethau sy’n perfformio waethaf yn yr UE o ran effeithlonrwydd gwres gwael y stoc dai, sydd hefyd yn cyfrannu at ffigurau tlodi tanwydd[8]. Mae pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi ‘anodd eu trin’ yn fwy agored i niwed o ran tlodi tanwydd, gan eu bod yn byw ar incwm sefydlog ac oherwydd cost cynhesu cartrefi gydag olew a thanwydd solet[9].

 

5.   Rydw i’n pryderu’n benodol am y ffaith bod tlodi tanwydd yn effeithio ar gyfran uwch o bobl hŷn yng Nghymru nag yng ngweddill y DU: defnyddiodd 26% o bobl hŷn lai o wres yn ystod gaeaf 2012/13 o gymharu â chyfartaledd y DU o 21%[10]. I lawer o bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi, mae misoedd hir y gaeaf yn golygu dilema na ellir ei osgoi o ran cynhesu’r cartref neu fwyta, gyda 25% o bobl hŷn yn prynu bwyd rhatach neu lai o fwyd[11]. Hefyd, mae teuluoedd yng Nghymru’n talu 5% yn fwy am eu trydan na gweddill y DU[12]. Mae biliau ynni teuluoedd wedi cynyddu 33% ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i fod yn fwy na £1200 y flwyddyn a dwywaith y bil bum mlynedd yn ôl ar gyfartaledd [13].

 

6.   Mae oblygiadau niferus i dlodi tanwydd (asthma, trawiad ar y galon a strôc, mwy o godymau oherwydd bod cryd cymalau’n gwaethygu, straen a phroblemau iechyd meddwl) ac mae’n cyfrannu at farwolaethau ychwanegol y gaeaf fel ffactor endemig. Roedd 1700 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru yn 2012/13[14]. Ledled Cymru a Lloegr, roedd 87% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn cynnwys pobl 75 oed a hŷn[15]. Gall mynd i’r afael â thlodi tanwydd helpu i achub bywydau, atal salwch a lleihau nifer y bobl sy’n gorfod mynd i’r ysbyty. Felly, gall lleihau’r achosion o dlodi tanwydd helpu i leihau costau statudol i ofal iechyd a chymdeithasol.      

 

7.   O ystyried yr ystadegau hyn a’r amserlen gyfyngedig, mae’n afrealistig y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged uchelgeisiol o ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018. Gan fod achosion o dlodi tanwydd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU (incwm, prisiau ynni) a Llywodraeth Cymru (effeithlonrwydd ynni cartrefi), mae’n hanfodol bod y ddwy Lywodraeth yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol i roi sylw i’r mater allweddol hwn.

 

8.   Rhaid gweithredu ar frys a gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw pobl hŷn yng Nghymru’n cael eu heffeithio’n annheg gan gyfuniad o amgylchiadau anffafriol: tlodi tanwydd yn sgil cartrefi wedi’u hinswleiddio’n wael, prisiau tanwydd yn codi, incwm isel a gallu cyfyngedig i sicrhau’r tariffau tanwydd rhataf a gorau. 

 

9.   O ystyried y ffigurau tlodi tanwydd a’r ‘tirlun’ ynni sy’n newid yn hynod gyflym, rwyf yn galw am ddiweddariad o Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 Llywodraeth Cymru[16]; er enghraifft, cynllun gweithredu a ategir gan adroddiadau blynyddol i amlinellu cynnydd, gan fanylu ar sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyrraedd ei darged tlodi tanwydd erbyn 2018.

 

10.               Mae angen rhagor o fanylion i adeiladu ar y cyfeiriadau at dlodi tanwydd yng Nghynllun Gweithredu Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru [17] a’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn (Cam 3)[18]. Dylid edrych hefyd ar y gwerth ychwanegol sydd i’w gael o lunio Cynllun Tywydd Oer Llywodraeth Cymru (defnyddir cynllun tebyg yn Lloegr[19]) a sut gallai helpu i leihau tlodi tanwydd ymhlith pobl hŷn.

Effaith rhaglenni effeithlonrwydd ynni presennol Llywodraeth Cymru a mentrau Llywodraeth y DU, fel y Fargen Werdd                     

11.               Fel y crybwyllwyd eisoes, mae cyswllt effeithiol rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru yn hanfodol er mwyn dileu  tlodi tanwydd cyn gynted â phosib. Mae’n hanfodol bod cynllun Bargen Werdd[20]  Llywodraeth y DU yn plethu gyda chynlluniau ynni effeithlon Llywodraeth Cymru, sef Nyth ac Arbed. Mae’r ddau gynllun wedi helpu i ostwng biliau oddeutu 8000 o gartrefi yn ystod 2013/14[21]. Rwyf i’n croesawu cefnogaeth Nyth yn benodol i bobl hŷn sy’n cael credyd pensiwn, a’i ymrwymiad i sefydlu bwrdd rhanddeiliaid i adnabod a thargedu teuluoedd agored i niwed ac anodd eu cyrraedd (gan gynnwys pobl hŷn), a rhoi cyngor a chefnogaeth. Hefyd, mae gwir angen gwelliannau effeithlonrwydd ynni i bobl hŷn sy’n byw yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, drwy Arbed.

 

12.               Mae rhoi gwybod i bobl hŷn sut mae arbed costau ynni, a sicrhau gwell gwasanaethau gwybodaeth a chyngor, yn elfen hanfodol o fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Rwyf yn croesawu sesiynau galw i mewn Nyth a’r cymorthfeydd stryd sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac yn rhoi iddynt wybodaeth a chyngor hawdd eu deall am bob agwedd ar wasanaethau tanwydd, costau ac asesiadau tai cyfan[22].

 

13.               Mae Nyth ac Arbed yn helpu i leihau ffigurau tlodi tanwydd yng Nghymru: mae 36,000 o deuluoedd wedi elwa o fesurau effeithlonrwydd ynni rhwng 2008 a 2011[23]. Hefyd, mae’r ddau gynllun yn helpu pobl hŷn: amlinellodd adroddiad gan Nyth bod 44% o’r teuluoedd a oedd yn derbyn pecyn gwella ynni yn 60 oed neu’n hŷn [24].

 

14.               Fodd bynnag, mae angen cefnogaeth ariannol bellach gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella’n sylweddol nifer y teuluoedd sy’n cael cefnogaeth tlodi tanwydd. Amcangyfrifir mai dim ond 1% i 2% o’r teuluoedd sy’n wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru y mae Nyth ac Arbed yn eu cyrraedd, ac mae Nyth (yn ei ail flwyddyn) yn helpu rhyw 10,000 yn llai o deuluoedd o gymharu â’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartrefi blaenorol[25].

 

15.               Er ein bod yn croesawu ymrwymiad ariannol parhaus Llywodraeth Cymru i dlodi tanwydd (£70m tan 2015/16[26]), o ystyried yr heriau allweddol perthnasol i’r newid yn yr hinsawdd, y costau ynni sy’n codi, a’r newid demograffig, rwyf yn bryderus bod cyfanswm gwariant Llywodraeth y DU ar dlodi tanwydd wedi gostwng 25% o gymharu â 2010[27]. Mae’r cyllid presennol i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn bryderus o brin o ystyried y gyllideb o £2.4 biliwn sydd ei hangen er mwyn sicrhau bod mwyafrif helaeth y teuluoedd sy’n wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru yn dod allan o’r tlodi hwnnw[28].

Gwaith y prif gyflenwyr ynni hyd yma ar weithredu Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni a mesurau eraill i leddfu tlodi tanwydd yng Nghymru

16.               Rwyf yn bryderus bod Llywodraeth y DU eisiau newid Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni, sy’n golygu y gallai 400,000 o gartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n wael golli cymorth gyda lleihau eu biliau [29][30]. Gall y Rhwymedigaeth helpu pobl ar incwm isel i wneud gwelliannau effeithlonrwydd, ond bydd lleihau cwmpas ei thargedau - er enghraifft, lleihau’r targed Inswleiddio Waliau Solet ar gyfer 2017 i ddim ond 100,000 o eiddo ledled y DU - yn golygu y bydd llai o bobl hŷn yng Nghymru yn elwa.

 

17.               Mae’n rhaid i gynlluniau fel Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni weithio gyda phobl hŷn mewn ffordd syml a chyfeillgar, oherwydd mae llawer o bobl hŷn yn teimlo bod y cynlluniau hyn yn cymryd llawer o amser ac yn gymhleth ac, o ganlyniad, maent yn colli cymorth y mae arnynt ei wir angen[31]. Hefyd, mae’n rhaid i’r Rhwymedigaeth ddatblygu partneriaethau effeithiol gyda sefydliadau allweddol yng Nghymru, er enghraifft, asiantaethau Gofal a Thrwsio sy’n cefnogi pobl hŷn ac yn cyfrannu llawer at godi pobl hŷn allan o dlodi tanwydd[32].

Materion eraill

 

18.               Mae pobl hŷn sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio’n arbennig gan dlodi tanwydd. Mae pobl hŷn sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o brofi tlodi tanwydd na’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol (42% o gymharu a 22%)[33]. Rhaid ystyried pob datrysiad e.e. clybiau prynu tanwydd, nwy oddi ar y grid, ac ymestyn y brif bibell nwy, a gweithredu arnynt er mwyn sicrhau bod pobl hŷn, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell heb lawer o boblogaeth a heb wasanaethau allweddol, ffrindiau na theulu wrth law yn hwylus, yn byw mewn cartrefi cynnes ac ynni effeithlon.                               

 

19.               Mae’n bwysig peidio â ‘datgyplu’ tlodi tanwydd yn ormodol oddi wrth broblem ehangach tlodi ymhlith pobl hŷn. Amcangyfrifir bod 84,000 o bobl hŷn yn byw mewn tlodi yng Nghymru[34]. Mae cynyddu incwm yn ffactor allweddol er mwyn atal tlodi tanwydd ac mae’n hanfodol bod pobl hŷn yn gwbl ymwybodol o’r holl hawliadau ariannol maent yn gymwys i’w gwneud e.e. credyd pensiwn, ac yn cael eu hannog i fanteisio ar y rhain. Gallant helpu’n sylweddol gyda biliau’r cartref, gan gynnwys costau ynni.  

 

20.               Mae Taliad Tanwydd y Gaeaf[35] yn ‘ychwanegiad’ y mae ei wir angen ar lawer o bobl hŷn ac, ochr yn ochr â’r Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes a’r Taliadau Tywydd Oer, gall wneud byd o wahaniaeth i’w bywydau. O ran budd-daliadau sydd heb eu hawlio, gallai pobl hŷn yng Nghymru fod yn colli £600 miliwn. Gallai cymryd y budd-daliadau cysylltiedig ag incwm yn llawn arwain at draean yn llai o dlodi ymhlith pobl hŷn[36]. Rwyf yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ar dlodi ymhlith pobl hŷn ac ar beth gellir ei wneud i roi sylw i’r defnydd gwael o hawliadau ariannol.

 

21.               Mae addysgu pobl hŷn a sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o beryglon tlodi tanwydd, ac yn gwbl barod ar gyfer misoedd hir ac oer y gaeaf, yn allweddol hefyd. Drwy gyfrwng addysg a gwybodaeth, gall unigolion helpu i leihau effeithiau tlodi tanwydd hefyd, e.e. drwy gadw cyfarpar mewn cyflwr da, gwarchod rhag cartrefi llaith, a delio â thaliadau biliau mor brydlon â phosib.                            

 

22.               Rwyf yn gwbl gefnogol i fentrau fel y cynllun Cymydog Cynnes[37] (CS Ceredigion), yr ymgyrch Goroesi’r Gaeaf[38] (Mudiad Cymunedol Cymru), yr ymgyrch Tlodi Tanwydd gan Fforwm Pensiynwyr Cymru[39], a Chanllaw Helpu gyda Thlodi Tanwydd Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru[40] i wella sgiliau cynghorwyr dyledion tanwydd a hyfforddi gwirfoddolwyr fel hyrwyddwyr effeithlonrwydd ynni. Rwyf hefyd yn croesawu pob ymdrech i helpu pobl hŷn i allu gwrthsefyll tlodi tanwydd yn well.

 

23.               Gan nad oes Grŵp Cynghori Gweinidogol ar dlodi tanwydd yn bodoli, mae’r Gynghrair Tlodi Tanwydd[41] yn parhau i fod yn llwyfan allweddol ar gyfer dod â sectorau a rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd a chydlynu ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

Sylwadau i gloi 

 

24.               Mae llawer o waith i’w wneud o hyd os yw Cymru am wyrdroi nifer y bobl a’r teuluoedd sy’n profi tlodi tanwydd. Mae pobl hŷn ymhlith y mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas yn aml, a chyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’n hanfodol nad yw pobl hŷn yn cael eu heffeithio’n annheg gan effeithiau eang tlodi tanwydd. Bydd mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn galw am gydweithredu effeithiol, nid yn unig rhwng llywodraethau, ond rhwng partneriaid allweddol eraill hefyd, gan gynnwys Awdurdodau Lleol (drwy eu gwybodaeth am y stoc leol o dai a’r ardaloedd lleol o amddifadedd), cymdeithasau tai, gwasanaethau cynghori a’r sectorau preifat a gwirfoddol.    

 

25.               Byddaf yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Gweithredu Y ni Cenedlaethol Cymru, er mwyn rhoi sylw i bryderon pobl hŷn ynghylch tlodi tanwydd a helpu i sicrhau bod nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru’n byw mewn cartrefi heb dlodi tanwydd. Bydd dosbarthu cyngor a gwybodaeth effeithiol a chreadigol, e.e. creu mwy o ymwybyddiaeth o faterion ynni drwy sesiynau bingo neu glybiau cinio, neu roi sylw i’r achosion sydd wrth wraidd y tlodi, yn lleddfu effeithiau tlodi tanwydd ymhlith pobl hŷn. Hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad i roi sylw i faterion allweddol fel hawliadau ariannol, a all helpu i godi pobl hŷn allan o dlodi. 

 

26.               Bydd fy swyddfa yn parhau i weithio gyda grŵp trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar dlodi tanwydd[42] ac rwyf yn cefnogi pob ymdrech i gydlynu gwaith y grŵp hwn gyda’r grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn a heneiddio.

 

27.               Yn olaf, byddwn yn fwy na pharod i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Ymchwiliad hwn, pe bai hynny o gymorth i’r Pwyllgor. 

 

 



[1] http://www.senedd.assemblywales.org/mgConsultationDisplay.aspx?id=127&RPID=1503821414&cp=yes

[2] http://www.ukace.org/wp-content/uploads/2014/02/ACE-and-EBR-fact-file-2014-02-Fuel-Poverty-update-2014.pdf

[3]http://www.nea.org.uk/Resources/NEA/Publications/2013/Fuel%20poverty%20monitor%202014%20(WEBSITE%20COPY).pdf

[4] http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/130521olderpeoplestrategyen.pdf

[5] http://www.e3g.org/docs/ACE_and_EBR_fact_file_(2014-02)_Fuel_Poverty_update_2014.pdf

[6] http://www.boilerjuice.com/blog/fuel-poverty-big-issue-wales/

[7] http://www.boilerjuice.com/blog/fuel-poverty-big-issue-wales/

[8] http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201314/cmhansrd/cm140211/halltext/140211h0002.htm

[9] http://chcymru.org.uk/uploads/general/CHC_Consultation_reponse_-_The_future_of_the_Energy_Company_Obligation.pdf

[10] http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/age-cymru-warns-pensioner-cutbacks-3567028

[11] http://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/archive/welsh-pensioners-cut-back-on-heating-and-eating/

[12] http://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/fuel-poverty-in-wales/

[13] http://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/fuel-poverty-in-wales/

[14] http://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/archive/ams-discuss-fuel-poverty-among-older-people-in-wales/

[15] http://www.bbc.co.uk/news/mobile/uk-wales-11458648

[16] http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/fuelpoverty/strategy/?lang=en

[17] http://www.rctcbc.gov.uk/en/relateddocuments/publications/communitiesfirst/tackling-poverty-action-plan.pdf

[18] http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?lang=en

[19] https://www.gov.uk/government/publications/cold-weather-plan-for-england-2013

[20] https://www.gov.uk/green-deal-energy-saving-measures/overview

[21]http://www.nea.org.uk/Resources/NEA/Publications/2013/Fuel%20poverty%20monitor%202014%20(WEBSITE%20COPY).pdf

[22] http://nestwales.org.uk/Resources

[23]http://www.nea.org.uk/Resources/NEA/Publications/2013/Fuel%20poverty%20monitor%202014%20(WEBSITE%20COPY).pdf

[24]http://www.nea.org.uk/Resources/NEA/Publications/2013/Fuel%20poverty%20monitor%202014%20(WEBSITE%20COPY).pdf

[25]http://www.nea.org.uk/Resources/NEA/Publications/2013/Fuel%20poverty%20monitor%202014%20(WEBSITE%20COPY).pdf

[26] http://wales.gov.uk/newsroom/environmentandcountryside/2013/131011fuelpoverty/?lang=en

[27] http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201314/cmhansrd/cm140211/halltext/140211h0001.htm

[28]http://www.nea.org.uk/Resources/NEA/Publications/2013/Fuel%20poverty%20monitor%202014%20(WEBSITE%20COPY).pdf

[29] http://www.carbonbrief.org/blog/2013/12/whats-new-about-the-governments-energy-efficiency-announcements/

[30] http://www.theguardian.com/environment/2014/mar/13/green-deal-eco-cuts-homes-insulation-energy-bills

[31] http://www.acenet.co.uk/older-and-disabled-people-being-put-off-energy-efficiency-initiatives/1410/6/1/25

[32] http://chcymru.org.uk/uploads/general/CHC_Consultation_reponse_-_The_future_of_the_Energy_Company_Obligation.pdf

[33]http://www.theclaymoreproject.com/uploads/associate/365/file/EAS%20Publications/Monitor%202011%20Final%20_2_.pdf

[34] http://www.ageuk.org.uk/PageFiles/41168/Life%20on%20a%20low%20income%20-%20FINAL%20-%20E.pdf?dtrk=true

[35] https://www.gov.uk/winter-fuel-payment/overview

[36] http://www.bevanfoundation.org/publications/poverty-and-social-exclusion-in-wales-2/

[37] http://www.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=21744

[38] http://www.cfiw.org.uk/eng/news/35-surviving-winter

[39] http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-22163420

[40] http://www.nea.org.uk/nea-wales/news-releases-wales/walesmedia-011012-01

[41] http://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/about-the-charter/

[42] http://www.senedd.assemblywales.org/mgOutsideBodyDetails.aspx?ID=249